Dwi’n perfformio yn The Lost Arc yn Rhaeadr Gwy heno gyda dwy gantores arbennig iawn; Samantha Whates ac Ida Wenøe. Dyma’r gig cyntaf i mi ei wneud dan do gyda chynulleidfa ers cyn i’r pandemig ddechrau, felly rwy’n gyffrous ac ychydig yn bryderus ar yr un pryd! Rwyf wedi bod i rai digwyddiadau gwych yn The Lost Arc, ac rwy’n siŵr y cawn groeso cynnes a chael noson arbennig iawn. Mae’r manylion ar y poster isod a gallwch brynu tocynnau trwy glicio yma. Gobeithio welwn ni chi heno!
